ADC/DB  
Ymchwilio'r CyfeiriadurE-Fforwm
AelodauBeth yw ADC/DB?
 
 
Deunyddiau ADC&DF
deunyddiaunewyddionsector ysgolionsector addysg uwchraddsector addysg pellach a Dysgu trwy weithiosector gwatih ieuenctidsector addysg barhaus i oedoliongweithdai DSW 09Datblygu CARcysylltiadau DefnyddiolymatebYmwadiad
 
 

Mae’r cyhoeddiadau a restrir isod yn rhoi gwybodaeth ychwanegol ynglŷn â datblygu a darparu Addysg Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang.

Ionawr 2009 - Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang

Fersiwn wedi ei diweddaru yw’r ddogfen hon o Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang - Strategaeth Weithredu. Roedd y ddogfen wreiddiol yn deillio o ganlyniadau ymgynghoriad diweddar ar Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang ac fe’i bwriedir i amlygu camau fydd yn
gyrru’r agenda yn ei blaen dros y cyfnod 3 o dair blynedd 2006-2009.

Lawrlwythwch y fersiwn pdf

 

Medi 2008 - Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang

Dyma ddogfen wybodaeth sydd wedi’i bwriadu i gynorthwyo â’r gwaith o ddarparu ADCDF mewn colegau Addysg Bellach. Mae’r ‘themâu’ sydd yn y ddogfen ‘Dealltwriaeth Gyffredin ar gyferysgolion’ yn ymwneud â holl ystod ADCDF ac yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno ADCDF drwy bynciau academaidd a galwedigaethol,
fframweithiau anstatudol perthnasol a’r Craidd Dysgu 14-19. Mae’r ddogfen hefyd yn cefnogi darparu Bagloriaeth Cymru.

Lawrlwythwch y fersiwn pdf

 

Awst 2008 - Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang ym maes dysgu oedolion yn y gymuned a gwaith ieuenctid yng Nghymru

Bwriad yr adroddiad hwn yw darparu datganiad sefyllfa i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar y gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd ym maes dysgu oedolion yn y gymuned a phobl ifanc mewn sefydliadau gwaith ieuenctid, yn gysylltiedig â datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang, ac i argymell ffyrdd o ddatblygu’r gwaith hwn.

Lawrlwythwch y fersiwn pdf

 

July 2008 – Information for teacher trainees and new teachers in Wales

 

Lawrlwythwch y fersiwn pdf

 

July 2008 – A Common Understanding for Schools

 

Lawrlwythwch y fersiwn pdf

 

April 2008 – A Strategy for Action – Updates (Jan 2008)

 

Lawrlwythwch y fersiwn pdf

 

Oct 2007 – Out of Classroom Learning

 

Lawrlwythwch y fersiwn pdf

Hydref 2006 - Y diweddaraf gan ESTYN i arolygwyr

Fel rhan o gyfraniad Estyn at gynllun gweithredu Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF), bu inni gynnal arolwg sylfaenol o ADCDF mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru.

Lawrlwythwch y fersiwn pdf

 

Medi 2006 - Cynllun Gweithredu LlCC ar gyfer ADCDF

Mae’r ddogfen hon yn seiliedig ar ganlyniadau ymgynghoriad diweddar ar Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang a fydd yn mynd â’r agenda yn ei blaen dros y 3 blynedd nesaf.

Lawrlwythwch y fersiwn pdf

 

Mai 2006 - Adroddiad sylfaenol ESTYN

Datganiad am Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF) mewn ysgolion a cholegau addysg bellach yng Nghymru yw’r adroddiad.

Lawrlwythwch y fersiwn pdf

 

Haf 2004 - Galluogi Cymorth Effeithiol (Cymru) Strategaeth Ddrafft

Mae Galluogi Cymorth Effeithiol yn fenter ledled y DU a ddatblygwyd gan DFID mewn ymateb i’r angen am ddull mwy systematig ar gyfer mynd ar drywydd dinasyddiaeth fyd-eang. Nid rhywbeth newydd mohono. Mae a wnelo ag adnabod a hybu’r mecanweithiau mwyaf effeithiol a fydd o gymorth i sicrhau ‘dinasyddiaeth fyd-eang’ trwy ychwanegu at yr hyn a gyflawnwyd eisoes. Dyma’ch cyfle i gyfrannu i’r broses hon. Daw’r cyfnod ymgynghori i ben ar 16eg Gorffennaf 04.
Anfonwch unrhyw sylwadau at:pitts_eeswales@yahoo.co.uk

Lawrlwythwch y fersiwn pdf (saesneg yn unig)

 

Llyfryn Addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang

Mae’r llyfryn hwn yn nodi pam ddylai ysgolion hyrwyddo addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang. Mae’n darparu rhai diffiniadau sylfaenol, ac enghreifftiau o arferion da cyfredol, fel y gall ysgolion ddysgu gan eraill am sut i ddatblygu cyfleoedd dysgu. Mae’r llyfryn hefyd yn cynnwys canllawiau Estyn ar gyfer arolygu a gwerthuso addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang ac yn nodi gwefannau defnyddiol a chefnogaeth sydd ar gael.

Cyswllt â’r wefan: http://www.accac.org.uk

 

 

 

dylunio a lletya
WiSS Cyf © 2009
  Am ragor o wybodaeth am ADC&DF, cysylltwch â: gwybodaeth@adc-cymru.org.uk