| |
Mae Canolfannau Arbenigedd Rhanbarthol
yn creu rhwydwaith dysgu byd-eang sy’n cynnwys llawer
o wahanol randdeiliaid ESDGC, maent yn cael eu cydnabod yn
swyddogol gan Brifysgol y Cenhedloedd Unedig, fel rhan o raglen
y Cenhedloedd Unedig i feithrin gweithredu Addysg ar gyfer
Datblygu Cynaliadwy (ESD) effeithiol yn y degawd ESD (2005-2014),
ac yn aml cânt eu hwyluso gan Sefydliadau Addysg Uwch.
Mae’r cais am gydnabyddiaeth i ‘CAR Cymru’
wedi cael ei gyflwyno. Disgwylir penderfyniad tua diwedd 2009.
Gallwch ddarllen am y cynnydd hyd yma
ar yr ‘CAR Cymru’ arfaethedig, dilyn datblygiadau
yn y dyfodol, a chysylltu â’r rhai sy’n
arwain proses y cais a’r gwaith o’i sefydlu, drwy
glicio ar y dolenni isod.
|