Mae rôl y sefydliadau
addysg uwch o fewn Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth
Fyd-eang yn hanfodol gan eu bod hwythau yn addysgu nifer fawr
o weithwyr proffesiynol ac arweinwyr cymdeithas y dyfodol.
Mae ganddynt rôl fawr i’w chwarae o ran rheolaeth
amgylcheddol eu sefydliadau a’u polisïau caffael,
a sicrhau bod y polisïau’n cael eu cyflwyno gan
fod yn ymwybodol o’r byd o’n cwmpas, yn gadarn
o ran moeseg ac yn gytbwys o ran yr amgylchedd. Mae ganddynt
hefyd y potensial i ddylanwadu ar eraill y tu allan i’r
brifysgol drwy gynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu proffesiynol.
Mae’r gwaith sydd ar y gweill
ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar gydweithio â CCAUC
ac eraill er mwyn datblygu cyfleoedd i gydlynu arferion presennol
a rhannu arferion gorau ar gyfer datblygu hyfforddiant sy’n
benodol i’r sector.