ADC/DB  
Ymchwilio'r CyfeiriadurE-Fforwm
AelodauBeth yw ADC/DB?
 
 
Beth yw ADC&DF?

deunyddiaunewyddionsector ysgolionsector addysg uwchraddsector addysg pellach a Dysgu trwy weithiosector gwatih ieuenctidsector addysg barhaus i oedoliongweithdai DSW 09Datblygu CARcysylltiadau DefnyddiolymatebYmwadiad

 
 

“Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hyrwyddo datblygiad sy’n diwallu anghenion y presennol heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. Mae hyn yn golygu y byddwn yn cyfuno egwyddorion datblygu cynaliadwy yn ein gwaith ac yn ceisio dylanwadu ar eraill i wneud yr un fath.”

(Dyfyniad o Gynllun Datblygu Cynaliadwy’r Cynulliad)

Mae Addysg Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang yn ddull sy’n cynnwys holl gwricwlwm a rheolaeth yr ysgol, ac nid yn bwnc ‘ychwanegol’ yn unig. Mae ei wreiddiau mewn addysg amgylcheddol ac addysg ddatblygol. O ganlyniad, mae nifer o’r blociau adeiladu ar gyfer addysgu datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang yn bresennol ym mhob ysgol eisoes.

Mae plant ac oedolion ifanc yn haeddu gwybod bod cysylltiad anorfod rhwng eu bywydau a phenderfyniadau pobl eraill ledled y byd a’u bod yn effeithio arnynt.

Mae ganddynt hawl i ddeall y materion hynod bwysig sy’n wynebu’r blaned a gwybod y gallant chwarae rhan bersonol
wrth gynorthwyo i lunio’r dyfodol.

 

Mae Addysg Datblygu Cynaliadwy
Yn galluogi pobl i ddatblygu’r wybodaeth, y gwerthoedd a’r sgiliau i gymryd rhan mewn penderfyniadau am y ffordd rydym yn gwneud pethau’n unigol ac wrth gydweithio, yn lleol ac yn fyd-eang, a fydd yn gwella ansawdd bywyd yn awr heb niweidio’r blaned ar gyfer y dyfodol.

 

Addysg a Dinasyddiaeth Fyd-eang
Mae hyn yn galluogi pobl i ddeall y grymoedd byd-eang sy’n llunio eu bywydau ac yn eu galluogi i gael y wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd fydd yn rhoi’r gallu iddyn nhw gymryd rhan yn y broses cymryd penderfyniadau, yn lleol ac yn fyd-eang, sy’n hyrwyddo byd sy’n fwy cyfiawn ac yn fwy cynaliadwy.

Mae Addysg Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang yn ymwneud â’r canlynol:

  • Y cysylltiadau rhwng y gymdeithas, yr economi a’r amgylchedd a rhwng ein bywydau ni a bywydau pobl eraill ledled y byd
  • Anghenion a hawliau cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol
  • Y berthynas rhwng pŵer, adnoddau a hawliau dynol

Goblygiadau lleol a byd-eang popeth rydym ni’n ei wneud a’r hyn y gall unigolion a sefydliadau ei wneud i ymateb i faterion lleol a fyd-eang.

Cysyniadau ADC&DF

 

dylunio a lletya
WiSS Cyf © 2009
  Am ragor o wybodaeth am ADC&DF, cysylltwch â: gwybodaeth@adc-cymru.org.uk